Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (19) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gofynnwyd y 14 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl
cwestiwn 2.
14.23
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
14.38
3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty: Y Gyllideb Ddrafft
15.35
4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Hygyrchedd i gyfreithiau Cymru a datblygu llyfr statud i Gymru
16.12
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Rhaglenni Ewropeaidd yn y dyfodol yng Nghymru
16.42
6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth
NDM4808 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ogystal â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642, NNDM4722 ac NNDM4785, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth ynghylch Rhagdybiaethau Cynllunio Gorchmynion Prynu Gorfodol, Sail 16 Atodlen 2 Deddf Tai 1985 ac Asedau ag iddynt Werth Cymunedol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
16.50
7. Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy
NDM4813 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar ddatblygu
cynaliadwy yn 2010-11, fel y nodir yn Adroddiad Llywodraeth Cymru
ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 22 Medi 2011.
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder nad yw Llywodraeth Cymru byth wedi prif ffrydio datblygu cynaliadwy yn llawn yn y ffordd mae’n gweithio ac yn datblygu polisïau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu gweledigaeth strategol well o sut caiff datblygu cynaliadwy ei wreiddio ar draws strategaethau, polisïau a chynlluniau unigol a sut maent yn cyfuno i gyfrannu at gynnydd mesuradwy yn erbyn y Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno camau cywiro ar frys i adfer y 22 Dangosydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2011 sydd wedi dirywio neu nad ydynt wedi gwella.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n llawn yr argymhellion a wnaethpwyd yn yr Adroddiad Blynyddol gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy a Cynnal Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
10 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y ddogfen “Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011" yn dangos bod y Llywodraeth wedi symud ymlaen gydag oddeutu hanner ei dangosyddion ond yn gresynu ei bod yn dangos y bu dirywiad clir mewn dangosyddion ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr a newidiadau tymor byr mewn poblogaeth adar.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
1 |
39 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yn rhaid i ddatblygu cynaliadwy gynnwys lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffynonellau domestig, ac yn galw am gynnydd yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
39 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i gomisiynu archwiliad annibynnol o’i pholisïau i hybu datblygu cynaliadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
39 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan awdurdodau lleol tuag at dargedau ailgylchu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
10 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4813 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar ddatblygu cynaliadwy yn 2010-11, fel y nodir yn Adroddiad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Medi 2011.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n llawn yr argymhellion a wnaethpwyd yn yr Adroddiad Blynyddol gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy a Cynnal Cymru.
Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan awdurdodau lleol tuag at dargedau ailgylchu
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
17.30
Cyfnod pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 17.33
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mercher, 5 Hydref 2011